Enghraifft o: | bwyd |
---|---|
Math | pwdin, crwst |
Rhan o | coginiaeth yr Aifft |
Yn cynnwys | caws, siwgr, Kadayif |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pwdin o'r Dwyrain Caol yw Kanafeh. Fe'i gwneir gyda thoes ffilo, neu semolina, wedi'i socian mewn sirup melys ac fel arfer wedi'i haenu â chaws, neu gyda chynhwysion eraill fel hufen neu gnau.[1] Mae'n boblogaidd yn y byd Arabaidd, yn enwedig y Lefant a'r Aifft, ac ymhlith Palesteiniaid. Yn ogystal, ceir amrywiolion yn Nhwrci, Gwlad Groeg, a'r Balcanau.
Yn Arabeg, mae'r gair kunāfa yn gyfeirio at y toes-llinyn (string pastry) ei hun, neu at y ddysgl gyfan. Yn Nhyrceg, gelwir y toes-llinyn yn tel kadayıf, a'r pwdin ei hun yn künefe. Yn y Balcanau, gelwir y toes (neu'r crwst) wedi'i falu yn kadaif,[2] ac yng Ngwlad Groeg fel kataifi, ac mae'n sail i wahanol brydau wedi'u rholio neu ar ffurf haenu, gan gynnwys teisennau pwdin gyda chnau a surop melys.
Un o'r paratoadau mwyaf adnabyddus o kanafeh yw knafeh nabulsiyeh, a darddodd yn ninas Nablus, Palesteina,[3] a dyma'r pwdin Palesteinaidd mwyaf cynrychioliadol ac eiconig.[4][5] Ceir hefyd Knafeh nabilsiyeh sy'n defnyddio caws gwyn o'r enw Nabulsi.[6][7] Mae'n cael ei baratoi mewn dysgl fas fawr gron, ac mae'r crwst wedi'i liwio â lliw bwyd oren, ac weithiau gyda chnau pistachio wedi'i falu.