Math | tref, ardal ddi-blwyf |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Fetropolitan Knowsley |
Daearyddiaeth | |
Sir | Glannau Merswy (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Formby |
Cyfesurynnau | 53.4826°N 2.892°W |
Cod OS | SJ409988 |
Tref yng Nglannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Kirkby[1] (IPA: /ˈkɝːbiː/; heb yngan yr ail 'k'). Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Knowsley. Mae'n gorwedd 5 milltir (8 km) i'r gogledd o dref Huyton, a thua 6 milltir (10 km) i'r gogledd-ddwyrain o Lerpwl.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Kirkby boblogaeth o 42,744.[2]
Sefydlwyd tref Eingl-Sacsonaidd yno tua'r flwyddyn 870 OC, ond ceir tystiolaeth am aneddfa ar y safle yn Oes yr Efydd. Mae'r enw ei hun yn Sgandinafaidd (kirk "eglwys" + by "aneddfa"). Datblygodd y dref o'r 1950au hyd y 1970au wrth i boblogaeth dinas Lerpwl dyfu ac fe'i ystyrir yn aml yn un o faesdrefi'r ddinas honno.
Mae Caerdydd 223.1 km i ffwrdd o Kirkby ac mae Llundain yn 288.4 km. Y ddinas agosaf ydy Lerpwl sy'n 8 km i ffwrdd.