Enghraifft o: | band |
---|---|
Gwlad | yr Almaen |
Label recordio | Warner Bros. Records, Astralwerks, Elektra Records, EMI, Kling Klang Schallplatten |
Dod i'r brig | 1970 |
Dod i ben | 2003 |
Dechrau/Sefydlu | 1970 |
Genre | cerddoriaeth electronig, Krautrock, synthpop, electro, tecno, cerddoriaeth arbrofol, electronica |
Yn cynnwys | Ralf Hütter, Florian Schneider, Karl Bartos, Wolfgang Flür, Fernando Abrantes, Klaus Röder, Michael Rother, Klaus Dinger, Fritz Hilpert, Henning Schmitz, Falk Grieffenhagen |
Enw brodorol | Kraftwerk |
Gwefan | https://kraftwerk.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Band electronig Almaenig dylanwadol yw Kraftwerk (yr enw yn golygu "Gorsaf bŵer").
Daw'r band o Düsseldorf, yr Almaen. Mae sain nodweddiadol Kraftwerk yn cyfuno rythm pwerus sy'n ailadrodd gyda melodi bachog, gan ddilyn steil harmoni clasurol y Gorllewin, yn minimalaidd a gyda offeryanu electronig yn unig.
Roedd Kraftwerk yn un o'r grwpiau cyntaf i arbrofi gyda syntheseiswyr a pheiriannau drwm gan greu rhai eu hunain cyn iddynt fod ar gael i'w prynu.
Maent wedi ysbrydoli grwpiau di-ri, a nifer fawr o genres cerddorol yn cynnwys pop, rap a techno. Mae Kraftwerk yn un o ychydig o grwpiau gwyn sydd wedi dylanwadau, wedi'u copïo a samplo gan grwpiau Affro-Americaniad, yn groes i'r arfer o grwpiau gwynion yn copïo cerddoriaeth ddu.
Fel dywedodd yr awdur Paul Morley: Ar ôl degawdau o gerddorion gwyn yn benthyg o gerddoriaeth du, efallai Kraftwerk yw'r cerddorion gwyn cyntaf i ail-dalu'r gymwynas a rhoi rhywbeth yn ôl.[1]