![]() | |
Enghraifft o: | Ysgrifen redeg, bicameral script, sgript naturiol, handwriting style ![]() |
---|---|
Iaith | Almaeneg ![]() |
Daeth i ben | Ionawr 1941 ![]() |
![]() |
Ffont, neu sgript, llawysgrifen ac argraffu yw Kurrent a ddaeth i'w hadnabod fel y ffurf Almaenig o ysgrifennu.
Ffurf o ysgrifen redeg yw Kurrent. Daw'r enw o'r Lladin currere ("redeg"). Adnebir y ffont weithiau fel Kurrentschrift neu Alte Deutsche Schrift ("hen sgript Almaeneg"). Defnyddiwyd addasiadau o'r Kurrent o'r Oesoedd Canol hyd at 1941 pan penderfynwyd y Natsiaid cael gwared arni a defnyddio'r sgript Ladin, neu Sans-serif, o'i roi enw arall arni. Lladin neu Antiqua yw'r sgript a ddefnyddwyd ar draws y rhan fwyaf o Ewrop gan gynnwys Gwledydd Prydain.
Yr addasiad, neu esblygiad olaf ar y ffont Kurrent oedd ffont Sütterlin, neu'r Sütterlinschrift yn Almaeneg.