Math | rhanbarth |
---|---|
Enwyd ar ôl | João Fernandes Lavrador |
Poblogaeth | 26,655 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser yr Iwerydd |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Newfoundland a Labrador |
Sir | Newfoundland a Labrador |
Gwlad | Canada |
Arwynebedd | 294,330 km² |
Cyfesurynnau | 54°N 62°W |
Rhanbarth o fewn talaith Newfoundland a Labrador yn nwyrain Canada yw Labrador[1] neu Labradôr.[1] Saif ar Benrhyn Labrador, ond nid yw'n cynnwys y penrhyn i gyd.
Labrador yw'r gyfran o Newfoundland a Labrador sydd ar y tir mawr, gyferbyn ag ynys Newfoundland. Yn y gorllewin a'r de mae'n ffinio ar dalaith Québec. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 27,860, gyda phobloedd brodorol, yn cynnwys yr Inuit a'r Innu yn ffurfio tua traean o'r rhain. Cafodd Labrador ei enw o enw'r fforiwr Portiwgeaidd João Fernandes Lavrador fu yma yn niwedd y 15g.