Sylwedd a ychwanegir at does neu gytew i beri iddo eplesu tra'n coginio yw lefain.[1] Mae lefain yn achosi i nwyon ddianc o'r cymysgedd, gan chwyddo a chreu bwyd pob sy'n fandyllog. Mae aer, ager, burum, powdwr pobi a soda pobi i gyd yn addas i lefeinio.[2]