![]() | |
Enghraifft o: | iaith farw, iaith yr henfyd ![]() |
---|---|
Math | Celteg y Cyfandir ![]() |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-3 | xlp ![]() |
Gwladwriaeth | Rhufain hynafol ![]() |
System ysgrifennu | Etruscan alphabet ![]() |
Roedd Leponteg yn iaith Geltaidd a siaredid gan y Lepontii ac efallai lwythau Cetaidd eraill yn Gallia Cisalpina yng ngogledd yr Eidal rhwng tua 700 CC a 400 CC.
Roedd yr iaith yn un o'r ieithoedd Celteg Cyfandirol ac yn perthyn y agos i'r Galeg. Mae ychydig o arysgrifau ar gael yn yr iaith, wedi eu hysgrifennu yn defnyddio gwyddor Lugano, un o'r pum prif wyddor yng ngogledd yr Eidal oedd wedi datblygu o'r Hen Wyddor Italig a ddefnyddid gan yr Etrwsciaid. Cafwyd hyd i'r rhain yn yr ardal o amgylch Lugano, yn cynnwys Lago di Como a Lago Maggiore.
Pan symudodd llwythau Galaidd i'r Eidal ac ymsefydlu i'r gogledd o Afon Po, disodlwyd Leponteg gan yr iaith Galeg. Yn ddiweddarach cymerodd y Rhufeiniaid feddiant o'r ardal a daeth yn ardal Ladin ei hiaith.