Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Llan-gwm

Llan-gwm
Mathcymuned, pentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.696°N 2.83°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000789 Edit this on Wikidata
Cod OSSO425005 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/au y DUCatherine Fookes (Llafur)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Llangwm (gwahaniaethu).

Pentref a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Llan-gwm,[1] weithiau Llangwm.[2] Saif i'r dwyrain o dref Brynbuga. Heblaw Llan-gwm ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llanfihangel Torymynydd a Llan-soe. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 400. Ar un cyfnod ceid Llangwm Uchaf a Llan-gwm Isaf (Gwarthacwm bellach).

Mae'r gymuned yn cynnwys bryngaer fwyaf Sir Fynwy, y Gaer Fawr. Cysegrir eglwys Llan-gwm i Sant Sierôm, ac mae'n cynnwys croglen nodedig o tua 1500. Ganed Walter Cradock, un o arweinwyr mwyaf blaenllaw y Piwritaniaid cynnar, yn Llan-gwm.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4]

Eglwys Sant Sierôm, Llan-gwm


  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Chwefror 2022
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-21.
  4. Gwefan Senedd y DU

Previous Page Next Page