Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Llanbedrog

Llanbedrog
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth841 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.8577°N 4.4848°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000068 Edit this on Wikidata
Cod OSSH328318 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Am yr eglwys a phlwyf o'r un enw ger Penfro, gweler Llanbedrog, Sir Benfro.

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn ne-orllewin Llŷn, Gwynedd yw Llanbedrog ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae'n gorwedd ar lan Bae Ceredigion tua hanner ffordd rhwng Pwllheli i'r dwyrain ac Abersoch i'r de. Rhed y ffordd A499 trwy'r pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Mae penrhyn Mynydd Tir y Cwmwd (343 troedfedd) yn ei gysgodi i'r de. O'r copa ceir golygfeydd braf dros Fae Ceredigion ac Ynysoedd Tudwal ac i fryniau Eryri yn y gogledd-ddwyrain. Mae cerflun 'Y Dyn Haearn' i'w ganfod ar Fynydd Tir y Cwmwd.

Mae traeth Llanbedrog yn ddeniadol ac yn boblogaidd gan ymwelwyr. I'r gogledd ceir craig isel Carreg y Defaid.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cysylltu Llanbedrog a Phwllheli.

Mae eglwys y plwyf yn bur hynafol. Fe'i cysegrir i Sant Pedrog. Eglwys un siambr hir ydyw, sy'n dyddio yn rhannol i'r 13g. Ychwanegwyd clochdy yn y 19g pan gafodd ei hatgyweirio'n sylweddol a'i thrawsnewid gan golli llawer o'i chymeriad hynafol. Mae'r bedyddfaen yn dyddio i'r 15g.

Mae Plas Glyn-y-Weddw, plasty Fictoraidd rhestredig Gradd II a chanolfan ddiwylliannol, wedi'i leoli yn y pentref.[3]

Traeth Llanbedrog o Fynydd Tir y Cwmwd.
Plas Glyn-y-Weddw
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Oriel Plas Glyn Y Weddw - Plas Glyn Y Weddw (cy-GB)". www.oriel.org.uk. Cyrchwyd 2022-03-08.

Previous Page Next Page






Llanbedrog BR Llanbedrog (lungsod) CEB Llanbedrog German Llanbedrog English Llanbedrog Spanish Llanbedrog EU Llanbedrog French Llanbedrog GA Llanbedrog GD Llanbedrog Italian

Responsive image

Responsive image