![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Tanwg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanfair ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.8358°N 4.1243°W ![]() |
Cod OS | SH570285 ![]() |
Cod post | LL46 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref bychan a phlwyf ar arfordir Ardudwy, de Gwynedd, yw Llandanwg ( ynganiad ). Lleolir y pentref 2 filltir i'r de o Harlech. Mae'n adnabyddus am ei eglwys ganoloesol a'i draeth llydan.
Mae Llandanwg yn gorwedd ger aber Afon Artro ym Mae Ceredigion, hanner milltir i'r gorllewin o bentref Llanfair. Mae ganddo orsaf ar Reilffordd y Cambrian. Mae'r traeth braf yn denu nifer o ymwelwyr yn yr haf.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]