![]() | |
Math | cymuned, pentref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 2,526 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.07°N 4.32°W ![]() |
Cod SYG | W04000072 ![]() |
Cod OS | SH450560 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref a chymuned ger Caernarfon, Gwynedd, yw Llandwrog ( ynganiad ). Mae ar yr A499 hanner ffordd rhwng Caernarfon a Chlynnog. Yn ymyl y pentref ceir Parc Glynllifon, hen blasdy mawr sydd bellach yn ganolfan i weithgareddau o bob math. I'r gogledd mae Morfa Dinlle a'i draeth braf a Bae'r Foryd, lle rhed Afon Gwyrfai i'r môr.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]
Mae'r pentref wedi bod yn gartref i Gwmni Recordiau Sain ers iw stiwdio recordio cyntaf agor ar fferm Gwernafalau yn 1975.