![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 308 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.62°N 4.07°W ![]() |
Cod SYG | W04000074 ![]() |
Cod OS | SH600054 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref, chymuned a phlwyf eglwysig yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanegryn[1][2] ( ynganiad ). Saif ym Meirionnydd ar lan ddwyreiniol Dyffryn Dysynni tua chwarter milltir i'r gogledd o lôn yr A493, tua 3 milltir i'r gogledd o Dywyn, ar lethrau isaf yr Allt-lwyd, y bryn cyntaf yn yr esgair hir o fryniau sy'n dringo i gyfeiriad Cadair Idris. Mae Afon Dysynni yn llifo heibio i waelod y pentref.
Mae pont fwa yn croesi ffrwd fechan ar ymyl y pentref. Ychydig o dai sydd yn y pentref ei hun ond ceir tri chapel yno ynghyd â'r eglwys hynafol sy'n sefyll ychydig o'r neilltu i'r pentref ei hun. Mae'r lôn sy'n rhedeg trwy'r pentref yn eich tywys i fyny'r dyffryn i gyfeiriad Castell y Bere a Llanfihangel-y-pennant.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]