![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Llyn Tegid ![]() |
Cysylltir gyda | Owen Morgan Edwards, Ifan ab Owen Edwards ![]() |
Poblogaeth | 617, 612 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 11,693.37 ha ![]() |
Gerllaw | Llyn Tegid ![]() |
Yn ffinio gyda | y Bala ![]() |
Cyfesurynnau | 52.86°N 3.67°W ![]() |
Cod SYG | W04000085 ![]() |
Cod OS | SH877299 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref a chymuned tua dwy filltir i'r de o ben deheuol Llyn Tegid ym Meirionnydd, Gwynedd yw Llanuwchllyn ( ynganiad ). Mae'n sefyll oddi ar yr A494, 5 milltir i'r de-orllewin o'r Bala, yn rhimyn hir ar hyd y B4403. Adnabyddir y pen gogleddol fel 'Y Llan' a'r pen deheuol fel 'Y Pandy'. Mae'r gofgolofn i O.M. Edwards a'i fab Ifan yn sefyll wrth y briffordd o flaen Ysgol O. M. Edwards yr ysgol gynradd leol.
Ceir sawl afon yn y cyffiniau gan gynnwys Afon Lliw sy'n llifo i'r Ddyfrdwy am ryw hanner milltir cyn aberu yn Llyn Tegid ger Glan-Llyn Isa. Daw'r Twrch o'r de, gan hollti'r pentre'n ddwy ran 'Llan' a 'Phandy'.