Mallrug

Mallrug
Claviceps purpurea

Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Fungi
Dosbarth: Ascomycota
Urdd: Hypocreales
Teulu: Clavicipitaceae
Genws: Claviceps[*]
Rhywogaeth: Claviceps purpurea
Enw deuenwol
Claviceps purpurea
(Fr.) Tul.

Math a rhywogaeth o ffwng yn nheulu'r Clavicipitaceae yw'r Mallrug (Lladin: Claviceps purpurea; Saesneg: Ergot).[1] 'Malltod' yw'r enw ar lafar ar y grwp mae'r ffwng yma'n perthyn iddo, ond nid yw'n derm gwyddonol. Haint sy'n achosi i blanhigion wywo yw 'malltod'. Ceir enw Cymraeg arall ar y rhywogaeth hon, sef Mallryg. Mae'r teulu Clavicipitaceae yn gorwedd o fewn urdd y Hypocreales.

O'u bwyta, gall y ffwng yma gael effaith seicoweithredol; gall hyn arwain at newidiadau mewn canfyddiad (perception), hwyliau'r person, ymwybyddiaeth, gwybyddiaeth neu ymddygiad y person. Disgrifiwyd ac enwyd y tacson yma'n wreiddiol gan y naturiaethwr Elias Magnus Fries.

Mae'r rhywogaeth hon o ffwng i'w chael yn Ewrop.

  1. Gwefan y Bywiadur; CELl, lle ceir enwau safonol Cymraeg. Adalwyd 21 Chwefror 2020.

Mallrug

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne