Mania

Gall cleifion â rhithdybiau mawredd feddwl ar gam eu bod yn llawer mwy pwerus nag ydyn nhw mewn gwirionedd (megalomania).

Mae Mania, a Hypomania yn gyfnodau o ymddygiad cyffrous a gorfywiog sy’n cael effaith sylweddol ar eich bywyd o ddydd i ddydd.

Mae Hypomania yn fersiwn ysgafnach o fania sy’n para am gyfnod byr (ychydig ddyddiau). Mae Mania yn ffurf fwy difrifol sy’n para am gyfnod hirach (yr wythnos neu fwy).

Gall mania newid y ffordd y mae pobl yn teimlo yn emosiynol ac yn gorfforol. Gall hefyd effeithio ar eu meddyliau a’u hymddygiad. Er bod pobl sy’n profi mania’n teimlo’n uchel i ddechrau, gallant wylltio pan nad yw eraill yn rhannu eu hagwedd optimistaidd. Gall mania arwain at bobl i wneud penderfyniadau gwael, i gael diffyg sgiliau canolbwyntio ac ymddwyn mewn ffyrdd sydd naill ai’n gywilyddus, yn niweidiol neu ambell waith yn beryglus. Pan nad yw’r teimladau mor eithafol, caiff ei ystyried fel hypomania.


Mania

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne