Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.
Melatonin
Hormon yw Melatonin sy'n cael ei gynhyrchu gan y corffyn pineol (ynghyd â lleoliadau eraill) ac sy'n rheoleiddio effröwch.[1] Mae hefyd yn wrthocsidydd nerthol ac yn rhyngweithio gyda'r system imiwnedd. Fel meddyginiaeth, mae'n cael ei ddefnyddio i drin anhunedd, ond mae amrywiaeth barn gymysg ynghylch ei effeithiolrwydd.[2]
Cafodd melatonin ei ddarganfod gyntaf mewn cysylltiad â'r mecanwaith sy'n galluogi rhai amffibiaid ac ymlusgiaid i newid lliw eu crwyn.[3][4] Mor gynnar â 1917, llwyddodd Carey Pratt McCord a Floyd P. Allen i ddarganfod bod bwydo echdynion o gorffynau pineol gwartheg yn goleuo crwyn penbyliaid trwy fagu'r melanofforau epidermol tywyll.[5][6]
Yn 1958, aeth yr athro mewn dermatoleg Aaron B. Lerner a chydweithwyr ym Mhrifysgol Yale, ati i ynysu'r hormon o'r echdyniadau o gorffynau pineol buchol yn y gobaith y byddai'n ddefnyddiol i drin afiechydon croen, a'i alw yn melatonin.[7] Yng nghanol y 1970au y darganfuwyd[8] bod cynhyrchu melatonin yn arddangos rhythm circadaidd mewn corffynau pineol dynol.
Yn 1993 y darganfuwyd bod melatonin yn wrthocsidydd.[9]
Rhoddwyd patent i Richard Wurtman o MIT yn 1995 i'w ddefnyddio fel cymorth i gysgu.[10] O gwmpas yr un adeg, cafodd yr hormon lawer o sylw yn y wasg fel triniaeth bosibl i nifer o afiechydon.[11][12] Serch hynny, mae profion o'i effeithiolrwydd fel triniaeth ar gyfer amryw o afiechydon hyd yma wedi bod yn gymysg, gyda nifer yn amhendant neu'n amheus.
↑"Management of Insomnia Disorder[Internet]". AHRQ Comparative Effectiveness Reviews15 (16): EHC027–EF. 2015. PMID26844312. "Evidence for benzodiazepine hypnotics, melatonin agonists in the general adult population, and most pharmacologic interventions in older adults was generally insufficient"
↑US patent 5449683, Nodyn:Citation/authors, "Methods of inducing sleep using melatonin", issued 12 September 1995, assigned to Massachusetts Institute of Technology