Merlyn

Merlyn yr Ucheldir, brid o ferlyn o Ucheldiroedd yr Alban

Mae'r merlyn (hefyd merlen) yn fath o geffyl bychan nad ydyw'n cyrraedd mwy na tua 14 dyrnfed o uchder fel rheol.

Ni cheir un diffiniad awdurdodol o'r gwahaniaeth rhwng merlyn a cheffyl. Mae rhai ceffylau bychain yn cael eu cyfrif yn ferlod weithiau er eu bod yn geffylau, e.e. "merlod" Gwlad yr Iâ.

Datblygodd y merlod fel brid arbennig o geffyl oedd yn byw ar dir ymylol, e.e. bryniau, lle nad oedd y borfa yn addas ar gyfer ceffylau mawr. Yng Nghymru ceir y merlod mynydd Cymreig ar y bryniau o hyd, sy'n disgynyddion i'r merlod Celtaidd efallai.

Hyd yn gymharol ddiweddar roedd merlod yn bwysig ym myd amaeth a diwydiant yng Nghymru a gwledydd eraill. Byddai pobl cefn gwlad yn arfer teithio mewn certiau a dynnid gan ferlod. Gweithiai merlod dan ddaear yn y pyllau glo i dynnu glo a rwbel.


Merlyn

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne