Sgan CT o Mesothelioma ar yr ysgyfaint | |
Enghraifft o'r canlynol | clefyd hysbysadwy, dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | asbestos-related disease, cancr cellog, clefyd |
Arbenigedd meddygol | Oncoleg |
Symptomau | Gwichian wrth anadlu |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae mesothelioma yn fath o ganser sy'n datblygu o'r haenen feinwe tenau sy'n cwmpasu llawer o'r organau mewnol (a elwir yn mesotheliwm).
Yn eich brest, mae dwy haen denau o gelloedd sy’n leinio tu allan yr ysgyfaint a thu mewn y frest, o’r enw pliwra, neu bilen blewrol. Mae pob haen mor denau â chroen balŵn. Mae’r haen tu allanyn leinio tu mewn cawell yr asennau, ac mae’r haen tu mewn yn gorchuddio’r ysgyfaint. Mae’r lle rhwng y ddwy haen yn cael ei alw’n ofod plewrol ac fel arfer mae’n cynnwys ychydig bach o hylif. Mae’r hylif hwn yn iro’r ddau arwyneb ac yn gadael i’r ysgyfaint a wal y frest symud ac ehangu wrth i chi anadlu i mewn ac allan.
Mae mesothelioma yn fath o ganser sy’n dechrau tyfu yn y bilen blewrol. Yn llai aml, mae mesothelioma yn gallu effeithio leinin tebyg o gwmpas yr abdomen neu’r galon. Mae’r llyfryn hwn yn sôn am mesothelioma y frest, sy’n aml yn cael ei alw’n ‘mesothelioma plewrol anfalen‘. (malignant pleural). Fel arfer, dim ond un ochr o’r frest mae mesothelioma yn effeithio arni. Wrth i gelloedd canser y mesothelioma dyfu a lluosi, maent yn ffurfio clympiau sy’n cael eu galw’n diwmorau. Weithiau, efallai bydd un tiwmor mawr. Yn amlach, mae llawer o diwmorau bach wedi’u gwasgaru drwy eich pilen blewrol sy’n achosi i’r bilen dewhau.