Math | council of Asturies |
---|---|
Prifddinas | Mieres del Camín |
Poblogaeth | 36,195 |
Pennaeth llywodraeth | Q123569295 |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | Herstal |
Daearyddiaeth | |
Sir | Province of Asturias |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 146.03 km² |
Uwch y môr | 386 ±1 metr |
Yn ffinio gyda | Ḷḷena, Riosa, Morcín, La Ribera, Uviéu, Llangréu, Samartín del Rei Aurelio, Llaviana, Ayer |
Cyfesurynnau | 43.25°N 5.7767°W |
Cod post | 33600 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Mieres |
Pennaeth y Llywodraeth | Q123569295 |
Mae Mieres yn ddinas ac yn un o ardaloedd gweinyddol Asturias, gyda thua 45,000 o drigolion yn byw ynddi. Mae o fewn rhanbarth Caudal (comarca), un o wyth prif raniad Asturias.
Mieres yw calon y diwydiant cloddio glo yn Sbaen a chyrhaeddwyd poblogaeth y ddinas ei anterth yn y 1960au (gweler y graff isod). Mae topograffeg Mieres yn fynyddig gyda'r canolfannau poblogaeth mwyaf yn y dyffryn ar lannau dyffryn Afon Caudal (Ríu Caudal) yng nghanol Asturias.
Mieres oedd canolbwynt Chwyldro Asturies 1934. Daeth glowyr a gweithwyr eraill at ei gilydd i ffurfio llywodraeth sosialaidd, gyda chyd-weithrediad anarferol o dda rhwng y Sosialwyr, Comiwnyddion ac Anarchwyr. Eto parhaodd ond pythefnos oherwydd grym milwrol Sbaen. Lladdwyd oddeutu 2000, a charcharu miloedd mwy.