Moschus | |
---|---|
Ganwyd | 2 g CC ancient Syracuse |
Bu farw | 2 g CC |
Dinasyddiaeth | ancient Syracuse |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Blodeuodd | 2 g CC |
Adnabyddus am | Europa |
Bardd a gramadegydd yn yr oes Helenistaidd oedd Moschus (bl. 150 CC) sydd yn nodedig am ei fugeilgerddi chwebannog yn yr iaith Hen Roeg. Yn ôl traddodiad y gwyddoniadur Bysantaidd Suda, Moschus yw'r ail o'r tri bardd bugeiliol, rhwng Theocritus a Bion.
Ganed yn Sirako, Sisili,[1] ac yn Alecsandria astudiodd dan y gramadegydd ac ysgolhaig Homeraidd Aristarchus o Samothrace.[2] Yr unig weithiau ganddo yn sicr sydd yn goroesi yw tri dernyn o'r casgliad eidylaidd Bucolica, y fugeilgerdd gyfan "Eros Drapetês", ac epigram serch sydd yn dychmygu'r duw Eros fel aradwr. Nid oes tystiolaeth o'i waith fel gramadegydd, ac eithrio cyfeiriad gan Athenaeus at waith ar bwnc geirfa Rodaidd gan un o'r enw Moschus.[1]
Priodolir i Moschus, o bosib ar gam, yr arwrgerdd fach (neu epyllion) Europa. Mewn 166 o linellau, yn llawn delweddaeth grotésg ac iaith goch ond arddulliedig, mae'r gerdd hon yn traddodi chwedl y Dywysoges Ewropa o Ffenicia a'i chipio gan y duw Iau yn rhith tarw. Yn hanesyddol priodolir iddo hefyd yr ymgom Megara, a ysgrifennwyd o bosib gan un o'i ddisgyblion, a'r alargerdd Epitaphios Bionos, a briodolir bellach i un o ddisgyblion Eidalaidd Bion.[2]