Rhywun sy'n gweithio yn y fasnach rendro anifeiliaid nad ydynt yn addas i'w bwyta gan fodau dynol, megis ceffylau nad ydynt yn gweithio rhagor[1] ydy nacer (Saesneg: knacker). Yn Saesneg, dyma darddiad yr ymadrodd slang "knackered" sy'n golygu wedi blino chwps/lan, neu "barod am iard nacer", lle lladdir hen geffylau a chânt eu troi'n fwyd ci a glud. Mae iard nacer, neu "nacerfa", yn wahanol i ladd-dy, lle lladdir anifeiliaid at gymeriant dynol.