Enghraifft o'r canlynol | cerflun |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Maen marmor (Groeg όμφαλός), yn Nheml Apollo yn Delphi, Gwlad Groeg, a ddynodai ganolbwynt y Byd, yn ôl y Groegwyr (ystyr omphalos yw "bogail", "navel"; daw'r gair Lladin umbilicus ohono, benthyciad o'r Roeg).
Safai yng nghysegrfa fewnol y deml o flaen cerflun aur o'r duw Apollo ac o'i flaen yr oedd yr aelwyd sanctaidd â'i fflam tragwyddol. Roedd ar ffurf silindraidd wedi'i addurno â brodwaith cerfiedig tebyg i rwydwaith o ganghennau; tybir mai coeden sanctaidd oedd yr omphalos yn wreiddiol. Roedd yn perthyn i'r amser cyn sefydlu'r pantheon Olympaidd, yn gysegredig i'r fam-dduwies Gaia. Yn ddiweddarach ddaeth yn rhan o gwlt y duw Apollo a chwareai ran bwysig yn nefodaeth Oracl Delphi.
Mae Omphalos yn enw ar un o frenhinesau cynnar Lydia yn ogystal. Mewn hen chwedl Roeg mae hi'n cael ei phortreadu fel merch eithriadol hardd a swynodd yr arwr Ercwlff (Hercules / Herakles). Dichon ei bod yn cynrychioli agwedd ar y Dduwies Fawr, neu offeiriades yn ei gwasanaeth, yn y chwedl honno.
Ceir Omphalos arall ar ynys Crete. Dywedir bod llinyn umbilical y duw Zeus wedi disgyn i'r ddaear yno.