Ym mathemateg a ffiseg, pellter mwyaf osgiliad o'r cymedr neu'r canolbwynt, mewn cyfeiriad negatif neu positif, yw osgled.[1] Mesur ydyw o'r newid mewn ffwythiant cyfnodol, neu system dan fudiant cyfnodol, dros un cyfnod, er enghraifft dirgryniad, ton, siglad pendil, neu glorian sbring.[2] Mewn achos tonnau sain, y mwyaf yw'r osgled y cryfaf yw'r sain.