Cynhwysyn a werthir er mwyn rhoi blas brag (malt) ar laeth cynnes yw Ovaltine (Ovomaltine yn wreiddiol). Mae'n cynnwys maidd a siwgwr (ar wahân i'r rhai a werthir yn y Swistir), ac yn yr Unol Daleithiau nid oes flas brag ychwaith yn yr Ofaltine mewn pacedi glas. Ceir amrywiadau a gall rhai mathau gynnwys cocoa. Perchennog y cwmni sydd bia'r nod masnach cofrestredig yw'r Associated British Foods, a chaiff ei wneud gan Wander AG, un o is-gwmnïau Twinings a brynnodd y nod masnach oddi wrth Novartis yn 2003, drwy'r byd, oddigerth i'r UDA, ble prynnodd Nestlé yr hawl i'r enw oddi wrth Novartis.
Allforiwyd Ovaltine i wledydd Prydain yn gyntaf yn 1909 dan yr enw Ovomaltine. Yn yr Eidal, yr enw ydy Ovalmaltina.