Uned o gyfaint yw'r peint a ddefnyddir yn y System Imperial Brydeinig a'r System Arferol Americanaidd. Yng Ngwledydd Prydain mae'n cyfateb i 34.68 modfedd gwibig (568.26 cm ciwbig) neu ⅛ galwyn. Yn yr Unol Daleithiau mae'r mesur sych (33.6 modfedd giwbig neu 550.6 cm ciwbig) ychydig yn wahanol i'r mesur hylifol (28.9 modfedd giwbig neu 473.2 cm ciwbig). Yn y ddwy system mae'r peint yn hafal i ddau gwpan, ac mae ddau beint yn hafal i chwart.[1]