Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Pencraig |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.225°N 3.1°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Mark Tami (Llafur) |
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Pencraig[1] (Saesneg: Old Radnor). Saif rhwng Maesyfed a Llanandras, ychydig i'r de o briffordd yr A44 ac ychydig i'r gorllewin o'r ffin â Lloegr.
Mae eglwys plwyf Pencraig yn dyddio o'r 15g ac yn cynnwys y cas organ hynaf yng ngwledydd Prydain.
Heblaw pentref Pencraig, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Evenjobb a Walton. Cafwyd hyd i balisâd mawr o goed o'r cyfnod Neolithig yn Walton yn ddiweddar. Codwyd y castell mwnt a beili yn Womaston cyn 1066, a chredir mai hwn oedd yn cynharaf yng Nghymru. Bu George Cornewall Lewis yn byw yn Harpton Court. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 741.
Ceir Allt Pencraig (Old Radnor Hill) yn y gymuned.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Mark Tami (Llafur).[3]