Enghraifft o ddyfais mewnbynnu, sef y Microsoft Kinect. Mae'n synhwyrydd pobl, sy'n trosglwyddo gwybodaeth pwy sy'n ei basio i'r cyfrifiadur.
Enghraifft o ddyfais allbynnu: argraffu 3D . Yn y fideo fer hon (10 eiliad), gwelir yr argraffydd yn creu model o robot, drwy ddefnyddio FDM.
Dyfais neu declyn ategol a ddefnyddir i roi gwybodaeth a data i mewn ac allan o gyfrifiadur yw perifferolyn .[ 1] [ 2]
Ceir tri chategori o ddyfeisiau perifferol: dyfais mewnbynnu, dyfais allbynnu a dyfais deubwn (mewnynnu ac allbynnu):
dyfais mewnbynnu: llygoden , bysellfwrdd , tabled cyfrifiadurol a graffeg, sganiwr , darllenwr cod bar , rheolwr gemau, pin golau, meicroffon , camera digidol , gwe-gam (web cam ) a ROM
dyfais allbynnu: sgrin cyfriaifiadurol , taflunydd , argraffydd , argraffu 3D , clustffonau a seinyddion
dyfais deubwn: storfa ddata e.e. co bach a'r Cof RAM
Mae gan y ffôn clyfar a'r tabled cyfrifiadurol ryngwyneb a meddalwedd priodol i gasglu data a'i allbynnu, hefyd e.e. monitro curiad y galon neu'r tymheredd.
↑ Geiriadur Bangor; "perifferolyn" yw'r term a ddefnyddir gan Y Termiadur Addysg - Technoleg Gwybodaeth . Adalwyd 11 Mawrth 2019.
↑ Laplante, Philip A. (2000). Dictionary of Computer Science, Engineering and Technology . CRC Press. t. 366. ISBN 0-8493-2691-5 . Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Medi 2016. Cyrchwyd 16 ionawr 2018 .