Tiriogaeth yn nwyrain yr Eidal yn y cyfnod clasurol oedd Picenum. Saif rhwng y Môr Adriatig a mynyddoedd yr Apenninau; ac mae heddiw'n ffurfio rhanbarth Marche. Daw'r enw oddi wrth enw y trigolion brodorol, y Piceni, a orchfygwyd gan Weriniaeth Rhufain yn y 3 CC.
Dan yr ymerawdwr Augustus daeth yn un o'r 11 regio yn nhalaith Italia, Regio V.