Poseidonius | |
---|---|
Ganwyd | Ποσειδώνιος 135 CC Apamea |
Bu farw | 51 CC Rhufain |
Galwedigaeth | mathemategydd, seryddwr, hanesydd, athronydd, llenor, ffisegydd, daearyddwr |
Prif ddylanwad | Panaetius |
Mudiad | stoicism |
Perthnasau | Menecrates, Jason of Nysa |
Roedd Poseidonius (Groeg: Ποσειδώνιος / Poseidonios), sillefir hefyd Posidonius, weithiau "o Rhodos" (ὁ Ρόδιος) neu "o Apameia" (ὁ Απαμεύς) (tua 135 CC - 51 CC), yn athronydd, gwleidydd, daearyddwr, seryddwr, hanesydd, athro ac awdur Groegaidd. Ystyried ef yn un o ddynion mwyaf galluog ei oes, gyda Aristoteles ac Eratosthenes yn un o'r ychydig a ddaeth yn agos at feistroli yr holl wybodaeth oedd ar gael yn ei gyfnod. Ysgrifennodd nifer sylweddol o lyfrau, ond dim ond rhannau sydd wedi goroesi.
Ganed Poseidonius i deulu Groegaidd yn Apamea, dinas Rhufeinig ar Afon Orontes. Cafodd ei addysgu yn Athen, lle roedd yn un o fyfyrwyr Panaetius, pennaeth yr ysgol Stoicaidd o athroniaeth. Tua 95 CC. ymsefydlodd yn Rhodos, lle bu'n dal swyddi megis prytaneis (un o'r arlywyddion, am gyfnod o chwe mis) a llysgennad i Rufain. Roedd yn bleidiol i Rufain fel grym allai roi sefydlogrwydd mewn byd anwadal.
Teithiodd Poseidonius i nifer o wledydd ar gyfer ei ymchwiliadau: Groeg, Hispania, Gogledd Affrica, yr Eidal, Sicilia, Dalmatia, Gâl, Liguria a'r Balcanau. Bu'n astudio'r llanw yn Gades ar arfordir Hispania (Cadiz heddiw), a bu'n astudio y Celtiaid yng Ngâl, gan adrodd am bethau rhyfedd a welodd a'i lygaid ei hun, megis hoelio penglogau gelynion wrth ddrysau fel arwydd o lwyddiant mewn rhyfel. Nododd fodd bynnag barch y Celtiaid ar y Derwyddon, ac ystyriai ef hwy'n athronwyr o fath. Ysgrifennodd lyfr ar wlad y Celtiaid, sydd bellach ar goll ond a ddefnyddiwyd gan nifer o awduron eraill, megis Timagenes, Iŵl Cesar, Diodorus Siculus a Strabo.
Athroniaeth oedd y pwnc pwysicaf i Poseidonius, ac ystyriai'r gwyddorau eraill yn ganghennau o athroniaeth. Roedd yn ddilynwr selog yr ysgol Stoicaidd mewn athroniaeth.