![]() | |
Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52°N 3.4°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
![]() | |
Pentref bychan gwledig yng nghymuned Honddu Isaf, Powys, Cymru, yw Pwllgloyw. Saif yn ardal Brycheiniog, i'r de o Fynydd Epynt ar lan afon Honddu, un o ledneintiau pwysicaf afon Wysg.
Lleolir y pentref ar bwys lôn wledig sy'n dringo i gyfeiriad Epynt o Aberhonddu, tua 2 milltir a hanner i'r de. Y pentrefi cyfagos yw Capel Uchaf, Castell Madog a Chapel Isaf i'r gogledd, a Llandefaelog Fach i'r de, ar y lôn i Aberhonddu.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[2]