Math o gyfrwng | placebo |
---|---|
Math | Meddyginiaeth amgen |
Dyddiad darganfod | 1922 |
Gwlad | Ymerodraeth Japan |
Enw brodorol | 霊気 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun Japaneg. Heb [[|rendro cymorth]] priodol, efallai'r gwelwch farciau cwestiwn, blychau, neu symbolau eraill yn lle kanji a kana. |
Ymarfer ysbrydol[1] a ddatblygwyd gan Fwdhydd Japaneaidd o'r enw Mikao Usui ym 1922 yw Reiki (霊気 yn Shinjitai). Mae'n defnyddio techneg o'r enw cledr-iacháu fel math o feddygaeth amgen a chyflenwol a ddosberthir weithiau fel meddygaeth ddwyreiniol yn ôl rhai cyrff proffesiynol.[2] Trwy ddefnyddio'r dechneg hon, mae ymarferwyr yn credu eu bod yn trosglwyddo egni'r bydysawd (h.y., reiki) ar ffurf ki trwy'r cledrau, sy'n caniatáu i hunan-iacháu a chyflwr o gydbwysedd ddigwydd.[3]
Mae dau brif gangen o Reiki, a chyfeirir atynt yn Reiki Japaneaidd Traddodiadol a Reiki'r Gorllewin fel arfer. Er y gall gwahaniaethau fod yn eang yn eu hystod rhwng canghennau a thraddodiadau, y prif wahaniaeth ydy'r defnydd o safleoedd dwylo sydd wedi'u safoni gan Reiki'r Gorllewin, yn hytrach na dibynnu ar osod sythweledol o'r dwylo (gweler isod), a ddefnyddir yn aml gan ganghennau o Reiki Japaneaidd. Mae gan y ddwy gangen hierarchaeth tair haen o raddau fel arfer, a chyfeirir atynt fel arfer fel y Radd Gyntaf, yr Ail Radd, a'r Radd Meistr/Athro, lle cysylltir gwahanol sgiliau a thechnegau â phob lefel wahanol.
Mae'r cysyniad o ki sydd wrth wraidd Reiki yn sbeciannol ac nid oes tystiolaeth wyddonol yn bodoli; casglwyd adolygiad systematig o brofion clinigol ar hap a gynhaliwyd yn 2008 fod "y dystiolaeth yn annigonol i awgrymu fod reiki yn driniaeth effeithiol am unrhyw gyflwr. Felly, mae gwerth reiki heb ei brofi o hyd."[4] Mae'r American Cancer Society[5] a'r National Center for Complementary and Alternative Medicine[6] hefyd wedi darganfod nad oes tystiolaeth glinigol neu wyddonol sy'n cefnogi honiadau fod Reiki yn effeithiol wrth drin unrhyw afiechyd.