Daearyddiaeth | |
---|---|
Ardal o garreg, tywod, cwrel neu ddeunydd tebyg ydy riff[1] (o fewn daeareg ceir hefyd 'creigres'), sydd i'w ganfod o dan wyneb y dŵr, ac sydd weithiau'n ffurfio gwely'r môr.
Mae llawer o rffiau'n cael eu creu drwy i dywod gael ei dyddodi mewn modd anfiotig neu drwy i rym tonnau'r môr dreulio a llyfnu'r graig, neu drwy brosesau naturiol eraill. Y math mwyaf nodedig o riff ydy'r riff cwrel a geir mewn moroedd trofannol a greir drwy brosesau biotig, ac a ddomineiddir gan gwrel ac algâu calchog; ceir hefyd riffiau wystrus. o'r amrywiaeth eang o algâu, y prif adeiladwr riffiau ydyw'r 'Alga Coralline'.
Ceir riffiau artiffisial hefyd e.e. pan fo llong yn suddo i waelod y môr, ac weithiau mae'r botanegydd yn suddo cychod yn bwrpasol i greu gwarchodfa ar gyfer amrywiaeth eangu o organebau fel pysgod.[2]