Map o brif lwybrau masnach Gogledd a Dwyrain Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar, gan ddangos y Ffordd o'r Farangiaid i'r Groegiaid (porffor) a Llwybr Masnachol y Volga (coch) . Roedd angen rheoli cadarnleoedd, marchnadoedd a phorthladdoedd ar hyd y llwybrau'n ddigonol ar gyfer ysbeilwyr a masnachwyr Sgandinafia. | |
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Enw brodorol | РУСЪ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pobl a drigai yn Nwyrain Ewrop yn ystod y cyfnod o ganol yr 8g i'r 10g oedd y Rws. Cyfeirir atynt mewn sawl dogfen hanesyddol o'r Oesoedd Canol Cynnar ar draws Ewrop a'r Dwyrain Agos, a phriodolir iddynt ddatblygu trefi cynnar y Slafiaid Dwyreiniol a sefydlu gwladwriaeth gyntaf y bobloedd hynny, Rws Kyiv, yn 882. Rhoesent eu henw i wledydd Rwsia a Belarws, a rhanbarthau hanesyddol megis Rwsia Fawr, Rwsia Wen, Rwsia Fechan, a Rwthenia. Fodd bynnag, nid yw'n sicr taw'r Rws oedd hynafiaid y cenhedloedd Slafig Dwyreiniol modern—y Rwsiaid, y Belarwsiaid, a'r Wcreiniaid—nac yn frodorion i'r ardal. Mae'r mwyafrif o ysgolheigion yn cytuno taw Llychlynwyr oedd y Rws yn wreiddiol, er i rai awduron, yn enwedig yn Rwsia, mynnu taw llwyth Slafig brodorol oeddynt.
Rhyfelwyr a masnachwyr oedd y Rws, a oedd yn bresennol yng ngogledd-orllewin Rwsia ac ar hyd flaenau Afon Volga yn niwedd yr 8g ac yn y 9g. Buont yn cyfnewid crwyn anifeiliaid a chaethweision am arian a phethau moethus o'r dwyrain. Rhoddir yr enw "Chaganaeth y Rws" gan rai awduron diweddar ar gynghrair ragdybiedig o'r llwyth hwn, ar sail ambell ffynhonnell sydd yn cyfeirio at arweinydd y Rws fel chacanus, teitl o'r Hen Dyrceg sydd yn gyfystyr ag "ymerawdwr". Fodd bynnag, mae'r mwyafrif o hanesyddion yn gwrthod disgrifiad o wladwriaeth o'r fath yn y cyfnod hwnnw. Aeth byddin o'r Rws ar ryfelgyrch i'r de yn 860, gan warchae ar Gaergystennin. Er gwaetha'r ymgyrchoedd milwrol hyn, byddai cysylltiadau rheolaidd rhwng y Rws a diwylliant Bysantaidd ond yn datblygu'n ddiweddarach, perthynas a fyddai'n arwain at gristioneiddio'r Slafiaid Dwyreiniol—yr hyn a elwir "bedydd y Rws"—yn niwedd y 10g.
Yn ôl y cronicl hynaf yn llên y Slafiaid Dwyreiniol, Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen, gwahoddwyd tri brawd o'r Farangiaid—yr enw ar Lychlynwyr a ymsefydlodd yn Nwyrain Ewrop—i deyrnasu arnynt yng nghanol y 9g. Er ei bod yn ddogfen ddigon manwl, tybir fod rhywfaint o fytholeg genedlaethol a ffurf lenyddol yr arwrgerdd yn y stori o'r tri brawd, cymeriadau ffughanesyddol neu led-chwedlonol efallai, ac ni ellir cymryd popeth sydd yn y cronicl yn ganiataol. Serch, mae'r mwyafrif o hanesyddion yn ystyried y cronicl yn gywir wrth nodi tarddiad Llychlynnaidd y Rws.