Math arbennig o gacen siocled, neu torte, gafodd ei dyfeisio gan yr Awstriad Franz Sacher[1] yn 1832 ar gyfer y Tywysog Wenzel von Metternich yn Fienna, Awstria, yw sachertorte.[2] Mae'n un o'r bwydydd enwocaf sy'n dod o Fienna.[3] Rhagfyr 5ed yw Diwrnod Sachertorte Cenedlaethol yn Unol Daleithiau America.[4]
Mae sachertorte yn gacen siocled ddwys gyda haen denau o jam bricyll ar ei phen, wedi'i gorchuddio ag eisin siocled tywyll ar ei phen a'i hochrau. Yn draddodiadol, mae'n cael ei bwyta gyda hufen wedi'i chwipio ond heb ei felysu.[5] [6]
It was created by chance one day in 1832 when the chef to the chancellor, Prince Wensel Metternich, suddenly fell ill. His 16-year-old apprentice, Franz Sacher, was called in to create a dessert that would not disgrace the prince and the Sachertorte was born.