Math | tref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Saltney, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.179°N 2.922°W |
Cod OS | SJ375645 |
Cod post | CH4 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jack Sargeant (Llafur) |
AS/au y DU | Mark Tami (Llafur) |
Tref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Saltney ( ynganiad ). Hen enw Cymraeg ar y lle oedd "Morfa Caer". Saif ger y briffordd A5104 ar ochr gorllewinol dinas Caer, bron ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac mae i bob pwrpas yn un o faesdrefi Caer.
Ar un adeg roedd diwydiannau megis adeiladu llongau a distyllu olew yn bwysig yma. Erbyn hyn, cymerwyd eu lle gan ddiwydiannau ysgafn a pharciau busnes.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 4,769. Dim ond 13.1% o'r rhain oedd ag unrhyw wybodaeth o'r Gymraeg, y ganran isaf o unrhyw un o gymunedau Sir y Fflint.
Tua hanner milltir i'r gorllewin ceir pentref bychan Saltney Ferry.