Sgwter

Sgwter
Mathdau-olwyn, stand-up vehicle, cludiant un person Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sgwter Razor gydag olwynion 98mm

Cerbyd stryd a chanddo gyrn, bwrdd ac olwynion, ac sy'n cael ei bweru gan berson yn ei wthio, yw sgwter. Mae'r sgwteri mwyaf cyffredin heddiw wedi'u gwneud o alwminiwm, titaniwm a dur. Mae rhai mathau yn plygu i'w gwneud yn haws i'w cario pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Mae gan rai sgwteri ar gyfer plant iau dair neu bedair olwyn, a maent wedi'u gwneud o blastig neu ddim yn plygu.

Mae sgwteri â motor, a oedd yn arfer cael eu pweru gan injan nwy, ac yn fwy diweddar gan foduron trydan, yn gallu cyrraedd cyflymder o tua 19mya (30 cilomedr yr awr).

Roedd sgwteri yn cael eu gwneud â llaw mewn ardaloedd trefol yn Ewrop a'r Unol Daleithiau o leiaf yn hanner cyntaf yr 20g, fel arfer ar gyfer plant.[1]

Mae'n debyg bod rhai yn cael eu defnyddio a hyd yn oed eu rasio yn Paris, Berlin a Leipzig in 1930au a'r 1940au.

  1. Mae yna olygfa yn M, clasur o ffilm gan Fritz Lang ym 1931.

Sgwter

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne