Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Sianti

Sianti
Enghraifft o:genre gerddorol, song type Edit this on Wikidata
Mathwork song, sailor song Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cân waith a genid yn wreiddiol gan forwyr yn Oes yr Hwylio yw sianti,[1] cân fôr, neu gân morwr.[2] Nodweddir ffurf y sianti gan unawd a chytgan am yn ail, yr unawd a genir gan y siantïwr[3] (a ddewisid am ei allu morwrol yn hytrach na'i ddawn gerddorol) a'r gytgan gan aelodau eraill y criw. Byddai rhythm y gân yn cynorthwyo wrth wneud y gwaith ar y llong, fel rheol tynnu rhaff, gyda'i gilydd. Dan arweiniad llafarganu'r siantïwr, a safai ar flaen y rhaff, byddai'r morwyr yn ateb ac yn halio ar y cyd ar le penodol yn y gân. Tynnodd y tonau'n aml ar faledi, caneuon gwerin, ac alawon poblogaidd eraill. Cenid ar gyflymder a oedd yn addas i'r gwaith wrth law, a gallai'r siantïwr cyfansoddi'r dôn a'r geiriau ar y pryd er mwyn estyn hyd y sianti i gyflawni'r dasg.[4] Mae geiriau siantïau yn ymwneud â bywydau morwyr, mordeithiau, llongau, y capten, a merched.

Rhennir siantïau yn dri prif fath, yn cyfateb i'r gwaith ar fwrdd y llong:

  • Sianti fer, caneuon syml ar gyfer ychydig o haliadau;
  • Sianti'r hwylraff, gyda rhythm o dynnu ac ymlacio ar gyfer tasgau megis codi'r hwyliau;
  • Sianti'r capstan neu sianti'r ddirwynlath, i gydamseru camau'r morwyr, er enghraifft wrth godi'r angor.[4]

Tardda'r enw sianti, trwy'r ffurfiau Saesneg shanty, chantey a chanty, o'r Ffrangeg chanter, sef "canu".

  1.  sianti. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Medi 2023.
  2. Geiriadur yr Academi, "shanty".
  3.  siantïwr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Medi 2023.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) shanty. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Medi 2023.

Previous Page Next Page






نهمة Arabic Şanti (mahnı janrı) AZ Sea Shanty Catalan Shanty German Sea shanty English Saloma Spanish نیمه FA Chant de marins French שיר מלחים HE Tengerésznóta Hungarian

Responsive image

Responsive image