Enw ar diriogaeth neu gyfundrefn y Cosaciaid Wcreinaidd yw sich (Wcreineg: січ). Defnyddiwyd yn hanesyddol i gyfeirio at ganolfan filwrol a gwleidyddol y Cosaciaid Wcreinaidd, yn enwedig Llu Zaporizhzhia, ac yn gyffredinol i ddisgrifio yr holl diroedd a fu dan reolaeth y Cosaciaid.[1]
Ymgododd yr angen am ryw fath o lywodraeth neu awdurdodaeth ymhlith y Cosaciaid yn Wcráin o ganlyniad i wladychu yn rhanbarth Zaporizhzhia, ar hyd ganol a de Afon Dnieper, yn y cyfnod 1530–50. Safai'r gwladfeydd hyn yng ngororau eithaf Teyrnas Pwyl, a fyddai'n uno ag Uchel Ddugiaeth Lithwania ym 1569 i ffurfio'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd. Adeilasant bencadlys mewn llannerch (sich neu sech) yn y corstiroedd coediog o amgylch hen gaer ar un o ynysoedd y Dnieper. Ymledodd aneddiadau Llu Zaporizhzhia oddi yno, gan ffurfio lled-wladwriaeth awtonomaidd i raddau a elwir Sich Zaporizhzhia, a fodolai am ryw ddeucan mlynedd.