Sianel sy'n cario mwg oddi wrth le tân, ffwrnais, neu beiriant yw simnai.[1]
Ceir tair rhan i'r simnai gartref arferol: y ceg, y siambr fwg, a chorn y simnai neu'r ffliw. Mae'r ceg uwchben y tân, a cheir caead o'r enw damper i gau'r sianel pan nas defnyddir y lle tân. Uwchben y damper mae'r siambr fwg, a thuag at ei waelod mae silff fwg sy'n atal tynfa i lawr y simne rhag chwythu mwg i mewn i'r ystafell (neu "fwg taro"). Culha'r siambr fwg tuag at ei brig. Pwrpas y siambr yw i arafu'r tynfa ac i ddal mwg sy'n cael ei atal rhag dianc gan wynt ar y to. Y corn neu'r ffliw yw prif hyd y simnai, ac fe'i wneir o gerrig, yn aml brics, gyda haenen fewnol o fetel. Mae'r simne sy'n fwyaf addas wrth ei gwaith yn fertigol ond weithiau ceir plyg ynddi i atal glaw gyrraedd gwaelod y simnai. Defnyddir hefyd troeon yn y sianel wrth greu un allanfa ar gyfer nifer o gyrn, hynny yw os oes lle tân mewn mwy nag un ystafell.[2]
Corn simnai silindraidd, diateg sy'n sefyll ar ben ei hun yw'r simnai ddiwydiannol fel rheol. Gwneir craidd ei adeiledd o frics tân a'i haen allanol o ddur, brics, neu goncrit cyfnerthedig, ac yn aml gyda gofod o aer rhyngddynt wrth ystyried effaith ehangiad differol.[2]