![]() | |
![]() | |
Math | commune of Algeria ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 155,259 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Souk Ahras District ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 812 km² ![]() |
Uwch y môr | 699 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Mechroha ![]() |
Cyfesurynnau | 36.2864°N 7.9511°E ![]() |
Cod post | 41000 ![]() |
![]() | |
Mae Souk-Ahras (enw hynafol: Tagaste) yn dref a wilaya (rhanbarth) yn Algeria. Fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain y wlad, yn agos i'r ffin â Tiwnisia.
Ystyr yr enw Souk-Ahras yw "Marchnad y llewod" (o'r gair Arabeg سوق souk 'marchnad' a'r gair Berber ahras 'llew'), ac fe'i gelwir felly am fod yr ardal yn adnabyddus yn y gorffennol am y llewod a oedd yn byw yng nghoedwigoedd yr ardal hyd ddiwedd y 19g.
Souk-Ahras (Tagaste) oedd tref enedigol Sant Awstin o Hippo, a aned yno yn y fwyddyn 354 i deulu o dras Berberaidd.
Mae ffordd yn cysylltu Souk-Ahras a Le Kef yn Tiwnisia a rheilffordd yn ei chysylltu ag Algiers, prifddinas y wlad, a Jendouba yn Tiwnisia.
Mae Afon Medjerda yn tarddu ger Souk-Ahras ac yn llifo i'r dwyrain ac yna dros y ffin ar ei thaith i'r Môr Canoldir rhwng Bizerte a dinas Tiwnis.