Spooks | |
---|---|
Genre | Ysbiwyr |
Serennu | Peter Firth Rupert Penry-Jones Hugh Simon Miranda Raison Alex Lanipekun |
Gwlad/gwladwriaeth | Y Deyrnas Unedig |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 7 |
Nifer penodau | 56 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 60 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | BBC1 |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Mae Spooks yn gyfres ddrama deledu Prydeinig sydd wedi ennill Gwobr BAFTA. Caiff y rhaglen ei chynhyrchu gan y cwmni annibynnol Kudos ar gyfer BBC1. Tarddai'r teitl o'r enw bob dydd a roddir ar ysbiwyr am fod y gyfres yn dilyn hynt a helynt grŵp o ysbiwyr MI5 yn Thames House wrth iddynt weithio. Yn yr Unol Daleithiau a Ffrainc darlledwyd y gyfres o dan yr enw MI-5. Yn wreiddiol, darlledwyd y gyfres yng Nghanada o dan yr enw MI5 ond mae bellach yn cael ei ddarlledu ar BBC Canada fel "Spooks". Crëwyd y gyfres gan yr ysgrifennydd David Wolstencroft.
Yn rheolaidd, mae'r gyfres wedi denu actorion poblogaidd fel gwestai i'r gyfres. Mae'r perfformwyr hyn yn cynnwys Hugh Laurie, Tim McInnerny, Ian McDiarmid, Jimi Mistry, Andy Serkis, Andrew Tiernan, Anton Lesser, Alexander Siddig ac Anthony Stewart Head.