Math | rhanbarth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Haut-Rhin |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 47.6231°N 7.2394°E |
Ardal yn rhan ddeheuol Alsace yn Ffrainc yw Sundgau. Mae'n ffinio â'r Swistir a mynyddoedd Jura i'r de, â dyffryn afon Rhein i'r dwyrain, â Mulhousei'r gogledd, ac â Bwlch Belfort i'r gorllewin. Y brif ddinas yw Altkirch. Daw'r enw o'r Almaeneg, yn golygu "gwlad y de".
Llifa afon Ill trwy'r ardal, o'r de i'r gogledd, i ymuno ag afon Rhein. Ardal amaethyddol ydyw yn bennaf. Mae'r pysgod ar yr arfbais yn cyfeirio at y pysgod Carp a gedwid gan y mynachod mewn llynnoedd bychain yn y cylch. Mae carpe frite yn parhau i fod yn fwyd nodweddiadol o'r ardal.
Yn y ganrif 1af CC, roedd yr ardal yma yn nhiriogaeth llwyth Galaidd y Sequani. Ymsefydlodd Almaenwyr yn yr ardal wedi i'r Sequani alw hurfilwyr Almaenig dan Ariovistus i'w hamddiffyn rhag llwyth yr Aedui tua 70 CC. Gorchfygwyd Ariovistus gan Iŵl Cesar yn 58 CC. Yn 405, croesodd yr Alamani afon Rhein i feddiannu'r diriogaeth, yna daeth yn eiddo'r Ffranciaid, a daeth yn rhan o deyrnas Austrasia.
Tua 750, rhannwyd Dugiaeth Alsace yn ddwy ran, Nordgau a Sundgau. Yn ddiweddarach, daeth yn eiddo rheolwyr Habsburg dugiaeth Awstria. Daeth yn eiddo Ffrainc ar ddiwedd y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, yma gyda'r gweddill o Alsace daeth yn rhan o'r Almaen yn 1870 wedi'r rhyfel rhwng Ffraic a Prwsia. Ymladdwyd rhai o frydrau cyntaf y Rhyfel Byd Cyntaf yma yn Awst 1914. Yn 1918, dychwelodd y Sundgau i Ffrainc gyda'r gweddill o Alsace.