Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 494, 544 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,477.28 ha |
Cyfesurynnau | 51.976°N 3.991°W |
Cod SYG | W04000557 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Talyllychau (Seisnigiad: Talley). Mae'n adnabyddus am adfeilion yr abaty a leolir yno.
Lleolir y pentref ar ben dau lyn, ac mae ei enw yn tarddu oddi wrth ddisgrifiad o'i leoliad: tal ('pen') a llychau, ffurf luosog ar llwch 'llyn' fel a welir yn enw tref Looe yng Nghernyw. Ei boblogaeth yw 534 o drigolion (Cyfrifiad 2001). Mae 48% yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).
Gerllaw'r pentref ceir Llynnoedd Talyllychau, sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]