Math | feminine hygiene product, Absorbents |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1931 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae tampon yn ddyfais hylendid benywaidd. Mae wedi ei wneud o gwneud o seliwlos, sy'n cael ei roi yn gwain y fenyw i amsugno y llif y mislif endometrial ac yn cael ei dynnu ar ôl ychydig oriau o ddefnydd. Mae gan rai gymhwysydd i hwyluso eu defnydd, ac mae eraill, yn blaen. Maent i'w cael mewn sawl siâp, er eu bod wastad yn silindrog ac o feintiau gwahanol. Maen nhw'n dueddol o gynnwys edau sydd wedi'i adael allan o'r fagina ar gyfer hwyluso tynnu tampon yn ddilyfethair o'r wain. Mae'r capasiti amsugno rhwng 6 a 20 mililitr, yn dibynnu ar faint y tampon arbennig.[1]
Defnyddir y term 'misglwyf' am y 'mislif' hefyd. Clywir hefyd y term mwys "yn ei blodau" hefyd, er enghraifft, "mae hi yn ei blodau, mae hi'n blodeuo".[2]
Mae ffyrdd eraill hŷn a gwerin o ddelio gyda'r mislif. Ceir hefyd defnydd o clwt mislif neu cadach/tywel/pad mislif cyfoes a masnachol hefyd, yn ogystal â dyfais y cwpan mislif.