Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Taranis

Taranis (Iau gydag olwyn a tharanfollt), Le Chatelet, Gourzon, Haute-Marne, Ffrainc

Duw taranau ym mytholeg y Celtiaid oedd Taranis (Proto-Gelteg: *Toranos, *Tonaros yn gynt; Lladin: Taranus, Tanarus yn gynt), a addolwyd yn bennaf yng Ngâl ac yn Hispania ond hefyd mewn rhanbarthau'r Rheindir ac Afon Donaw. Soniodd y bardd Rhufeinig Lucan am Daranis, ynghyd ag Esos a Toutatis, yn ei gerdd epig Pharsalia fel duwiau Celtaidd y gwnaed offrymau aberthol dynol iddynt. Cysylltwyd Taranis, yn ogystal â'r Cyclops Brontes ("taran") ym mytholeg Roeg, â'r olwyn.

Credir mai llun o Taranis a geir ar wal fewnol Pair Gundestrup, a grëwyd rhwng 200 CC a 300 OC

Y mae llawer o ddarluniau o dduw barfog â tharanfollt yn y naill law ac olwyn yn y llall wedi eu canfod o Gâl, lle mae'n debyg y daeth y duw hwn i gael ei gyfuno â'r duw Rhufeinig Iau.[1]

  1. Paul-Marie Duval. 2002. Les Dieux de la Gaule. Paris, Éditions Payot.

Previous Page Next Page






Taranis ALS Taranis AST Тараніс BE Taranis BR Taranis Catalan Taranis Czech Taranis German Taranis English Taranis EO Taranis Spanish

Responsive image

Responsive image