Math | tref |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Thurrock |
Daearyddiaeth | |
Sir | Essex (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.4606°N 0.3582°E |
Cod OS | TQ639761 |
Cod post | RM18 |
Tref yn sir seremonïol Essex, Dwyrain Lloegr, ydy Tilbury.[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn awdurdod unedol Bwrdeistref Thurrock. Mae'n rhan o Borthladd Llundain gyda phorthladd dwfn mawr. Saif ar lan ogleddol Aber Tafwys ac mae ganddi gysylltiad hanesyddol agos â Gravesend, y mae'n ei wynebu ar lan y de; mae fferi yn gweithredu rhwng y ddau le.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Tilbury boblogaeth o 12,450.[2]