Math | talaith hanesyddol yn Ffrainc |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 47.4°N 0.68°E |
Un o ranbarthau hanesyddol Ffrainc oedd Touraine. Y brifddinas oedd Tours. Saif bron yng nghanol y wlad.
Cymerodd y rhanbarth ei enw oddi wrth lwyth Celtaidd y Turones. Llifa afon Loire trwy'r ardal, ac mae afon Cher, afon Indre ac afon Vienne yn llifo i mewn iddi. Mae'r ardal yn enwog am ei gwin. Ceir nifer fawr o gestyll yma, yn cynnwys castell Chinon.
Daeth y rhanbarth i ben pan ad-drefnwyd Ffrainc yn départements yn dilyn Chwyldro Ffrainc. Daeth y rhan fwyaf o'r diriogaeth yn département Indre-et-Loire, gyda rhan yn y gogledd-ddwyrain yn dod yn rhan o Loir-et-Cher a rhan o'r de ddwyrain yn dod yn rhan o Indre.