Enghraifft o: | tram system |
---|---|
Rhan o | London Trams |
Perchennog | Transport for London |
Yn cynnwys | Tramlink route 1 (London), Tramlink route 2 (London), Tramlink route 3 (London), Tramlink route 4 (London), Tramlink route 5 |
Lled y cledrau | 1435 mm |
Gweithredwr | London Trams |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Llundain |
Gwefan | https://www.tfl.gov.uk/modes/trams/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Tramlink yn rhwydwaith tram yn gwasanaethu Croydon a’r ardal o’i gwmpas. Dechreuodd ei wasanaethau yn 2000, y rhwydwaith tram cyntaf yn Llundain ers 1952. Ei berchennog yw London Trams, rhan o Transport for London a threfnir ei wasanaethau gan Tram Operations Cyf, rhan o FirstGroup.
Mae 39 o orsafoedd a 28 cilomedr o gledrau[1]. Canolbwynt y rhwydwaith yw Croydon, gyda leiniau yn terfynu yng Ngorsaf reilffordd New Addington, Gorsaf reilffordd Elmers End, New Addington a Gorsaf reilffordd Wimbledon.[2]
Defnyddir 24 o dramiau, adeiladwyd gan gwmni Bombardier yn Wakefield, seiliedig ar dramiau Köln, adeiladwyd gan Bombardier yn Brugge a Wien.[3]Ar 18 Awst 2011, rhoddwyd cytundeb i Stadler Rail ar gyfer 6 Tram Variobahn, a chyraeddasant yn 2012. Archebwyd 6 arall yn 2015.[4]