Ymadrodd neu dechneg rethregol yw trawsenwad[1] sy'n rhoi enw nodwedd (y trawsenw)[2] ar beth yn lle enw'r peth ei hun. Ffurf gyffredin yw i ddefnyddio enw lle ar lywodraeth neu ddiwydiant, er enghraifft Bae Caerdydd am lywodraeth Cymru, Hollywood am y diwydiant ffilm Americanaidd neu Stryd y Fflyd am bapurau newydd Llundain.