Tregynon

Tregynon
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth892, 866 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,838.12 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.578795°N 3.331399°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000350 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRussell George (Ceidwadwyr)
AS/au y DUCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Tregynon.[1] Saif i'r gogledd o'r Drenewydd. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Cynon, ac mae yno gapel Presbyteraidd yn ogystal. Ceir yno ysgol gynradd a melin goed. Ymhlith enwogion y pentref mae Lewys Dwnn yr achyddwr a Thomas Olivers yr emynydd.

Arferai llawer o dir y gymuned berthyn i stad Gregynog. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 616.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU

Tregynon

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne